Pam lai?
Zergatik ez?
Why not?
Rhannu diwylliant / Kultura partekatzea / Sharing culture
Tocynnau £5, plant dan 12 am ddim.
Bwyd ar gael - gweler tudalen Eventbrite.
Tocynnau £5, plant dan 12 am ddim.
Bwyd ar gael ar y noson.
Caffi Alys 01654 703336 - CAFFI ALYS POSTER
Ty-Siamas Wedi'w canslo
Mynediad am ddim
Rhannu | Dysgu | Dathlu | Cefnogi |
Compartir | Aprende | Celebrar | Apoyar |
Sharing | Learning | Celebrating | Supporting |
Seilir y lwyddiant ein taith perfformio ‘Canciones de los montañes/ Cân y mynyddoedd’ pan aeth pedwar cerddor a bardd o Gymru ar daith i ogledd Colombia ym mis Hydref 2019, a gefnogwyd yn rhannol gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Trwy’r fenter honno, cafwyd effaith rymus o ran datblygu cyfleoedd perfformio at y dyfodol, meithrin cysylltiadau rhyngweithiol rhwng pobl a chymunedau, a chynyddu ymwybyddiaeth yng Ngholombia o iaith a diwylliant Cymru. Mae’r cyffro a grëwyd yn parhau i ddatblygu goblygiadau newydd ac ychwanegol. Hefyd roedd yn hwyl aruthrol, ac arweiniodd at nifer o gysylltiadau cyfeillgar hynod werthfawr.
Llysgenhadon naturiol yw perfformwyr, fel y gwelwyd yr Hydref diwethaf. ‘Llysgenhadon y gair’ ydynt, ac maent yn rhannu’n naturiol, ac mae eu gallu celfyddydol, eu profiad a’u hyfforddiant yn golygu eu bod yn agored i ddeialog, rhyngweithio a datblygu cyfleoedd a chysylltiadau newydd. Mae hyn yn wir yn benodol am ymarferwyr celfyddydau traddodiadol, wedi eu trwytho yn eu diwylliant cynhenid, ac sy’n frwdfrydig i edmygu a dysgu o ddiwylliannau eraill. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r fenter newydd hon - boed o Gymru neu Golombia - wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo pob iaith a diwylliant cynhenid. Daw tri o gyfranogwyr Colombia o gymunedau ieithyddol brodorol, ac yn yr un modd ag yr ydym ni yma yng Nghymru’n ymhyfrydu mewn hyrwyddo ein diwylliant ar draws y byd a chymryd ein lle ar lwyfan y byd, maent yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau a deialog gyda ni yma, er mwyn cyfoethogi a helpu diogelu’r ieithoedd a chymdeithasau sydd mewn perygl yn eu gwlad nhw.
Defnyddio caneuon, straeon a barddoniaeth i bontio rhwng pobl a chymunedau Cymru ac Euskal Herria - Gwlad y Basg. Wrth godi'r fath bont, prin bod angen unrhyw waith adeiladu gan mor debyg, mor gydnaws â'i gilydd, ydi diwylliannau'r ddwy wlad. Ac mae hi'n bont sy'n tyfu'n uwch ac yn fwy cadarn o hyd.
Dyma ni'r trefnwyr, pedwar o Gymru a phedwar o Euskal Herria.
CymruMeic LlewellynOsian Morris Nicolas Davalan Gail Jenkins |
Euskal HerriaAna AnduezaIgor Otxoa Itziar Albes Jurdana Martin Retegi |